Mae heddlu gwrth gyffuriau’r Unol Daleithiau wedi dod o hyd i long danfor sy’n cael ei ddefnyddio i smyglo cocên yn Ecuador.

Roedd y llong danfor sy’n rhedeg ar ddisel wedi ei adeiladu yn y jyngl anghysbell ac wedi ei ddal ger ffin Ecuador a Colombia.

Mae yna ddigon i le yn y llong danfor i smyglo tunelli o gocên ond llwyddodd heddlu Ecuador i’w atal cyn iddo adael ar ei daith gyntaf.

Mae’r llong soffistigedig yn cynnwys perisgop ac aerdymherydd. Mae o tua naw troedfedd o uchder a 100 troedfedd o hyd.

Dywedodd heddlu gwrth gyffuriau’r Unol Daleithiau mai’r nod oedd cludo’r cyffuriau dros y môr heb i neb sylweddoli eu bod nhw yno.

Mae cartelau smyglo cyffuriau Colombia wedi defnyddio llongau tanfor er mwyn smyglo cocên dan drwyn llongau heddlu gwrth gyffuriau’r Unol Daleithiau a Colombia yn y gorffennol.

Yn Awst 2007 daeth heddlu’r Unol Daleithiau o hyd i long danfor o’r fath oddi ar arfordir Guatemala.