Mae Sbaen dal yn y ras er mwyn cipio’r Cwpan y Byd go iawn ond mae copi drwgdybus o’r tlws enwog wedi ei ddal cyn cyrraedd yno.

Daeth yr heddlu mewn maes awyr yn Colombia yn Ne America o hyd i Gwpan y Byd wedi ei gwneud o gocên, ddoe.

Dywedodd pennaeth gwrth gyffuriau maes awyr rhyngwladol Bagota ei fod o wedi dod o hyd i’r cerflun rhyfeddol wrth chwilio warws bost.

Roedd y cerflun 36cm o uchder tu mewn i focs oedd ar ei ffordd i Madrid, Sbaen. Roedd y cerflun wedi ei baentio’n aur gyda streipiau gwyrdd ar y gwaelod.

Dywedodd y pennaeth cyffuriau bod profion mewn labordy yn profi bod y cwpan wedi ei greu o 11 kilo o gocên.