Mae un o sêr y BBC wedi ymuno gyda’r ddadl ynglŷn â gwario’r gorfforaeth gan ddweud eu bod nhw’n talu “gormod o lawer”.
Awgrymodd Syr Terry Wogan, 71, y dylai’r gweithwyr sy’n cael eu talu fwyaf dderbyn toriad cyflog o 15%.
Daw ei sylwadau dyddiau’n unig ar ôl i Syr Michael Lyons, cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC, ddweud y dylai enwau’r rheini sy’n derbyn y cyflogau mwyaf gael eu cyhoeddi.
“Mae’r dyddiau da ar ben,” meddai Terry Wogan wrth bapur newydd y Mail on Sunday. “Mae cyflogau yn llawer rhy uchel.
“Fe allen nhw oddef toriad cyflog 10% i 15%. Mae’r sector gyhoeddus yn gorfod gwneud hynny, felly alla’i ddim gweld pam na ddylai pawb arall.
“Mae pobol yn poeni ynglŷn â lle mae eu harian nhw’n mynd, ac mae’r BBC yn darged amlwg.
“Rhaid i ni fod yn gyfrifol. Fe fyddai’r gynulleidfa yn anhapus pe baen nhw’n credu eich bod chi’n cael eich talu gormod.
“Edrychwch ar ymateb y cyhoedd i Jonathan Ross. Os ydyn nhw’n mynd i ddechrau torri tâl pobol, allech chi ddim dweud y dylech chi gael eich trin yn arbennig am eich bod chi’n gweithio ym myd teledu.”
Yn ôl ffigyrau a ryddhawyd yn gynharach eleni, mae’r BBC yn gwario £54 miliwn ar eu sêr mwyaf, gan gynnwys Jonathan Ross, Graham Norton, Jeremy Paxman a Fiona Bruce.