Fe fydd darpar arweinwyr Llafur yn wynebu aelodau’r blaid yng Nghaerdydd heddiw.
Fe fydd y hustings yn cael ei gynnal yn Stadiwm y Mileniwm a bydd Ed a Dvaid Miliband, Andy Burnham, Ed Balls a Diane Abbott yno.
“R’yn ni’n annog aelodau’r Blaid Lafur, gan gynnwys 1,000 o aelodau newydd, i ddod draw a chwarae rhan wrth siapio dyfodol y blaid,” meddai’r Blaid Lafur.
Ymddiswyddodd eu harweinydd diwethaf, Gordon Brown, wedi’r Etholiad Cyffredinol ym mis Mai ac fe gymrodd Harriet Harman yr awenau fel arweinydd dros dro.
Fe fydd arweinydd newydd y Blaid Lafur yn cael ei gyhoeddi yn eu cynhadledd flynyddol ym mis Medi.
David Miliband yw’r ffefryn ar hyn o bryd, gyda’i frawd Ed yn ail, Ed Balls yn drydydd, ac Andy Burnham a Diane Abbot yn olaf.
Roedd pôl piniwn a gyhoeddwyd yr wythnos yma yn hwb i’r Blaid Lafur, gan awgrymu bod eu cefnogaeth yng Nghymru ar gynnydd ar ôl blynyddoedd o ddirywiad.