Mae’r heddlu yng Nghaerdydd yn ymchwilio ar ôl lladrad arfog yn oriau man y bore dydd Sadwrn yn Dominos Pizza, Stryd Crwys, Cathays.
Fe aeth dau ddyn i mewn i’r adeilad o’r cefn a bygwth pedwar aelod o staff oedd yn gweithio yn y siop. Cafodd rywfaint o arian ei ddwyn o’r til.
Gadawodd y dynion yr adeilad drwy’r cefn i Stryd Fanny a dianc i gyfeiriad Stryd Daniel.
Dyma’r disgrifiad:
• Dyn Ewropeaidd pryd tywyll, tua 6 troedfedd o daldra, yn dew, gyda dillad tywyll ac yn gwisgo sbectols mawr a hwdi.
• Dyn byrrach, tua 5’4 – 5’7, tenau, 14-16 oed, o dras Asiaidd. Dillad tywyll a hwdi a sbectols haul.
“Yn ffodus ni chafodd yr un o’r staff eu hanafu yn ystod y lladrad,” meddai’r Ditectif Arolygydd Ceri Hughes. “Serch hynny maen nhw wedi cael braw.
“Mae archwiliad fforensig yn parhau ac ymchwiliadau yn cael eu cynnal gan dditectifs yn yr ardal.
“Hoffwn dawelu meddwl y cyhoedd gan bwysleisio bod y fath ddigwyddiadau yn hynod o anghyffredin yn Ne Cymru ac r’yn ni’n apelio ar unrhyw lygaid dystion sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda ni.”
Ffoniodd 029 20527267 os oes gyda chi wybodaeth, neu Taclo’r Tacle yn ddi enw ar 0800 555 111.