Mae un o actorion rhaglen y Royle Family wedi bod yn protestio heddiw am bardwn ar ôl cael ei arestio yng Ngogledd Cymru bron i 40 mlynedd yn ôl.
Cafodd Ricky Tomlinson a 23 o bobol eraill eu harestio yn Sir y Fflint yn 1973 ar ôl sefyll mewn llinell biced.
Cafodd yr actor ei gyhuddo o gynllwynio a’i garcharu am ddwy flynedd gan Lys y Goron yr Amwythig.
Fe fuodd Ricky Tomlinson yn arwain gorymdaith yn yr Amwythig ddoe yn galw am ymchwiliad i beth ddigwyddodd a phardwn i’r rheini a gafwyd yn euog.
“Roedd y gweithwyr yn streicio gan alw am £1 yr awr ac amodau gweithio saffach yn y diwydiant adeiladu,” meddai Mike Abbott, ysgrifennydd ymgyrch Cyfiawnder i Bicedwyr yr Amwythig.
“Roedd yna streicio ym mhobman ond cafodd 24 eu harestio yn Sir y Fflint yng Ngogledd Cymru a’u rhoi ar brawf yn Llys y Goron yr Amwythig.
“Roedden nhw eisiau gwneud esiampl ohonyn nhw er mwyn atal yr Undebau Llafur.
“Maen nhw’n galw am gael eu rhyddhau o fai ac maen nhw’n mynd i wneud hyn bob blwyddyn tan fod hynny’n digwydd.”
Heddiw oedd yr ail flwyddyn iddyn nhw orymdeithio ac roedd yna 500 o bobol yn bresennol.
(Llun: PA)