Mae rhieni yn talu’r pris am fynd ar wyliau teuluol yn ystod mis Awst – hyd yn oed os ydyn nhw’n aros yng Nghymru.

Yn ôl arolwg gan gwmni Santander Cards mae pris mynd ar wyliau ym mis Awst yn gallu bod hyd at 85% yn fwy na phris gwyliau yng nghanol mis Gorffennaf.

Roedd gwyliau dramor yn costio 38% ar gyfartaledd yn fwy ym mis Awst nag ym mis Gorffennaf, tra bod gwyliau ym Mhrydain yn costio 30% yn fwy ar gyfartaledd.

Mae’r un peth yn wir yng Nghymru. Mae pris gwyliau mewn carafán yn Presthaven Sands, ger Prestatyn, yn codi o £399 ynghanol mis Gorffennaf i £698 erbyn canol mis Awst, cyn disgyn i £467 ym mis Medi.

Erbyn mis Medi roedd prisiau gwyliau dramor yn disgyn 33% a phris gwyliau ym Mhrydain yn disgyn 55%.

“Mae’n anffodus i deuluoedd sy’n mynd ar wyliau yn ystod gwyliau’r ysgol bod costau yn codi cymaint,” meddai cyfarwyddwr Santander Cards, Emma Roberts.

“Dyw hi ddim yn mynd i fod yn rhad i deuluoedd sy’n gobeithio mynd ar wyliau’r haf yma.”