Mae’r heddlu wedi dweud fod dau ymosodiad yn ardal Newcastle, sydd wedi lladd un ac anafu dau, wedi eu cyflawni gan yr un person.

Ymosodwyd ar ddyn a’r ddynes yn oriau man y bore ddoe, tua 2.40am, yn Gateshead, Newcastle. Roedd rywun wedi saethu drwy ffenestr ystafell fyw Samantha Stobbart.

Maen nhw’n credu bod yr un person wedi mynd yn ei flaen i saethu ag anafu heddwas yn hwyrach ymlaen.

Mae’r heddlu yn chwilio am Raoul Thomas Moat, gafodd ei adael yn rhydd o’r carchar dydd Iau. Maen nhw’n credu mai fo yw cyn bartner Samantha Stobbart, y ddynes sydd wedi ei hanafu.

Gadawodd ei phartner y tŷ a chael ei saethu i lawr tua 50 metr o’r drws ffrynt.

Llai nag 24 awr yn ddiweddarach datgelodd yr heddlu eu bod nhw yn credu mai Raoul Thomas Moat saethodd heddwas gafodd ei anafu’n ddifrifol.

Saethwyd yr heddwas ar gylchfan rhwng yr A1 a’r A69 yn East Denton, Newcastle, tua 12.45am.

Mae’r heddwas yn cael ei drin yn Ysbyty Newcastle ar hyn o bryd ac mae ei gyflwr yn “ddifrifol” ond ddim yn angheuol.

“Roedd hwn yn ymosodiad direswm ar heddwas wrth iddo wneud ei swydd,” meddai’r Prif Gwnstabl Sue Sim.

“Rydym ni’n gryf o’r farn ei fod o wedi ei saethu gan yr un dyn wnaeth saethu dau berson yn Gateshead bore ddoe.”