Mae Roy Hodgson wedi cael ei benodi’n reolwr newydd Lerpwl ar ôl i’r clwb gytuno ar iawndal gyda Fulham.
Mae’r rheolwr newydd yn olynu Rafael Benitez ar gytundeb tair blynedd yn dilyn tymor siomedig i glwb Anfield.
Yn ôl y sôn mae Lerpwl wedi talu £2m i Fulham mewn iawndal er mwyn sicrhau gwasanaethau’r Sais 62 oed.
Roedd cyn rheolwr Inter Milan a Blackburn wedi cael ei gysylltu gyda swydd Lloegr, yn dilyn perfformiad siomedig tîm Fabio Capello yng Nghwpan y Byd. Mae Hodgson eisoes wedi profi ei hun ar y lefel rhyngwladol ar ôl cyfnodau gyda’r Swistir a’r Ffindir.
Cafodd Fulham dymor llwyddiannus dan arweiniad Roy Hodgson y tymor diwethaf gan gyrraedd rownd derfynol Cynghrair Europa.
Hodgson oedd dewis cyntaf Lerpwl er fod enwau nifer o reolwyr eraill wedi cael eu cysylltu gyda’r swydd.
“Dyma’r swydd fwyaf ymysg clybiau pêl droed ac mae’n anrhydedd cael ymuno â chlwb mwyaf llwyddiannus Prydain,” meddai Roy Hodgson.
“Rwy’n edrych ‘mlaen i gwrdd â’r chwaraewyr a’r cefnogwyr a chychwyn ar fy ngwaith.”
Llun: Roy Hodgson (PA).