Mae’r undeb Unison wedi rhybuddio y gallai toriadau Llywodraeth Prydain olygu y bydd tua 20,000 o swyddi yn cael eu colli o’r sector cyhoeddus yng Nghymru.

Maen nhw’n dweud hefyd y byddai colli 25% o grantiau cefnogol i awdurdodau lleol yn achosi colled o £404 miliwn mewn buddsoddiad, a cholled o £306 miliwn i economi’r wlad.

Gallai hyn yn ôl yr undeb, achosi difrod economaidd ofnadwy yng Nghymru, a fyddai’n cymharu â phan wnaeth y Torïaid gau’r pyllau glo yn yr wythdegau.

Honiad y Guardian : 1.3 miliwn ar draws Prydain

Daw’r rhybudd ar ôl adroddiadau ddoe y gallai cymaint ag 1.3 miliwn o bobl golli eu gwaith ar draws gwledydd Prydain yn ystod y blynyddoedd nesaf, yn sgil y toriadau gafodd eu cyhoeddi yn y Gyllideb yr wythnos diwethaf.

Honnodd papur newydd y Guardian eu bod wedi cael y ffigyrau o’r Trysorlys.

Roedden nhw’n dangos y byddai 120,000 o swyddi yn cael eu colli o’r sector cyhoeddus a 140,000 o’r sector breifat bob blwyddyn dros y bum mlynedd nesaf.

Mae’r ffigyrau yn hollol groes i’r hyn sy’n cael ei ddarogan gan y Llywodraeth, sydd wedi dweud y bydd diweithdra yn gostwng ar ôl cyrraedd uchafbwynt o 8.1% eleni gan gyrraedd 6.1% yn 2015.

Llun: (Gwifren PA)