Mae Cwmni NEP UK wedi prynu rhai o asedau’r grŵp darlledu Barcud Derwen a gaeodd yn gynharach yn y mis.

Fe fydd is gwmni NEP Cymru OB yn cael ei greu fel rhan o’r cwmni rhyngwladol. Bydd yn cael ei sefydlu yng Nghaerdydd gan gyflogi 15 o bobol.

Mae NEP yn cyflogi dros 500 o bobol yn rhyngwladol ac yn darlledu digwyddiadau mawr ar draws y byd.

Mae cyfran helaeth o’r cwmni yn berchen i gwmni ecwiti American Securities, sydd â’u pencadlys yn Efrog Newydd.

Tony Cahalane yw rheolwr gyfarwyddwr y cwmni newydd. Roedd yn arfer rheoli adran Omni y grwp Barcud Derwen, oedd yn darparu adnoddau darlledu allanol i gwmniau darlledu yng Nghymru.

Dirywiad anffodus

“Wedi dirywiad anffodus Grŵp Barcud Derwen,” meddai Steve Jenkins, cyfarwyddwr gweithredol NEP UK, “fe gymrodd NEP y cyfle i greu darparwr adnoddau stiwdio a darlledu allanol yng Nghymru.”

“Roedd yr hwb a gafwyd i’r fenter gan gwsmeriaid a darlledwyr allweddol yn anhygoel, ac fe’n hysbrydolwyd i weithio ddydd a nos i sicrhau y byddai’n llwyddo.”

Barcud Derwen

Roedd Grŵp Barcud Derwen yn cyflogi 35 o bobol yng Nghaernarfon tan yn ddiweddar.

Roedd wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr ar ôl dioddef anawsterau ariannol. Mae’r asedau eraill ar werth o hyd.