Mae cytundeb Cymru’n Un wedi creu polisïau uchelgeisiol ac wedi rhoi llywodraeth sefydlog i’r wlad.
Dyma fydd neges y Prif Weinidog Carwyn Jones a’i ddirprwy, Ieuan Wyn Jones, mewn digwyddiad heno i nodi tair blynedd ers i Llafur a Phlaid Cymru uno mewn Llywodraeth.
Mi fydd y ddau yn annerch cynulleidfa yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd.
Maen nhw’n honni fod dros dri chwarter o 228 o addewidion y cytundeb wedi cael eu cyflawni, a’u bod am barhau i weithio ar y gweddill er gwaethaf y sefyllfa economaidd wael.
‘Wedi methu’ – Ceidwadwyr
Ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud fod y glymblaid “wedi methu cyfle i wneud rhywbeth gwahanol.”
Maen nhw’n cyhuddo’r glymblaid o fethu datblygu “strategaeth hir dymor sydd ei angen ar Gymru,” ac wedi methu gosod gweledigaeth ar gyfer datblygu economi “gref a sefydlog.”
‘Wedi methu’ – Democratiaid Rhyddfrydol
Mae’r glymblaid wedi methu amddiffyn gweithwyr a phobol mwyaf bregus cymdeithas mewn amser o galedi meddai’r Democratiaid Rhyddfrydol.
“Ar y ddau gyfrif yma, maen nhw wedi methu,” meddai Kirsty Williams.
Mae’n honni fod mwy o blant bellach yn byw mewn tlodi ac nad oes gan y Llywodraeth unrhyw gynlluniau pendant i fynd i’r afael a hyn.
Yn ogystal meddai, mae ymgais y glymblaid i ddelio â’r dirwasgiad wedi bod yn “wan”, a dydyn nhw ddim wedi helpu digon ar deuluoedd er bod miloedd wedi colli eu gwaith dros y dair blynedd diwethaf.