Pa ddeddfau hoffech chi eu dileu neu eu newid? Mae’r llywodraeth yn chwilio am farn y bobl drwy wefan newydd sy’n cael ei lansio heddiw gan y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg.

Drwy’r wefan ‘Your Freedom’ mae modd i’r cyhoedd gynnig syniadau am pa ddeddfau y dylid eu newid neu ddileu neu enghreifftiau o fiwrocratiaeth ddiangen.

“Rydym yn troi pethau wyneb i waered,” meddai Nick Clegg.

“ Y ffordd draddodiadol o wneud pethau yw bod y llywodraeth yn dweud wrth y bobl beth i’w wneud.

“Dyna’r hen ffordd o wneud pethau. Rydym ni’n dweud, ‘Dywedwch wrthym beth rydach chi’n dymuno i ni ei wneud.”

Yn ôl Nick Clegg, mae hen gyfreithiau sydd ddim yn cael eu defnyddio yn cyfleu neges anghywir.

Y cwestiynau ar y wefan

Mae’r wefan yn gofyn tri chwestiwn:

:: Pa gyfreithiau presennol hoffech chi ddiddymu neu newid oherwydd eu bod nhw’n cyfyngu ar eich hawliau sifil?

:: Pa reoliadau ydych chi’n credu y dylid eu diddymu/newid i wneud rhedeg eich busnes neu sefydliad mor syml ag y bo modd?

:: Pa droseddau ydych chi’n meddwl y dylem symud neu newid a pham?

LLUN: Nick Clegg