Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi talu teyrnged i’r blismones fu farw mewn tân yn Sir Fôn yn ystod oriau mân bore ddoe.

Bu farw’r Ditectif Gwnstabl Heather Bickley, 46 oed a’i dau fab, Oscar a Felix yn y tân yn eu cartref yn Nhynygongl ger Marianglas.

“Roedd Heather yn swyddog profiadol, uchel ei pharch,” meddai Mark Jones o’r heddlu.

Ymunodd â’r heddlu ym 1994 ac roedd wedi gweithio ym Mangor, Caergybi ac Amlwch.

Roedd yn aelod o Uned Gwarchod y Cyhoedd ar Ynys Môn ers 2000.

“Yn ystod y cyfnod hwn, roedd Heather yn rhan annatod o dîm ymroddedig sy’n gyfrifol am ddiogelu plant ac roedd wedi ymroi i’r swydd gydag angerdd,” meddai Mark Jones.

“Mae ein meddyliau gyda’i gŵr, John, ei deulu a’r gymuned ar hyn o bryd. Bydd ffrindiau a chydweithwyr yn ei cholli’n fawr.”

Dywed yr heddlu fod gŵr Heather Bickley, John, yn cael cefnogaeth gan gyfeillion, teulu ac arbenigwr proffesiynol.