Fe fydd Iestyn Davies, 53 oed sydd wedi’i gyhuddo o lofruddio Ffion Wyn Roberts o Borthmadog yn cael ei cadw yn y ddalfa tan Gorffennaf 9 pryd y bydd yn ymddangos yn Llys y Goron, Caernarfon.
Bu ger bron Llys Ynadon Caernarfon y bore ma pryd y cadarnhaodd ei enw a’i ddyddiad geni. Does ganddo ddim cyfeiriad sefydlog.
Ni wnaed cais am fechnïaeth ac fe ohirwyd yr achos.
Fe gafodd ei arestio ddoe ar gyhuddiad o lofruddio Ffion Wyn Roberts.
Fe gafodd y ferch 22 oed ei llofruddio ar ôl noson allan yn Nhremadog yn oriau mân y bore, Ebrill 10. Fe ddaethpwyd o hyd i’w chorff mewn hen gamlas ar gyrion y dre’, a hithau wedi ei thagu.