Ym Mecsico, mae corwynt Alex wedi rhwygo toeau oddi ar dai, wedi achosi llifogydd yn y strydoedd ac wedi gorfodi miloedd o bobl o’u cartrefi.

Eisoes, mae’r corwynt wedi creu problemau yn Gwlff Mecsico gan fod tonnau o 12 troedfedd yn atal yr ymdrech i gasglu olew yn sgil y drychineb ddiweddar.

Mae’r corwynt yn perthyn i gategori dau a dyma’r corwynt cyntaf yn ystod y mis o Fehefin ers 1995.

Neithiwr, daeth y corwynt i gyswllt â yng ngogledd Mecsico, tua 110 milltir i’r de o Brownsville, Texas.

Fe ddywedodd Canolfan Corwyntoedd Cenedlaethol yr Unol Daleithiau ei fod yn teithio tua’r tir ar gyflymder o 10 milltir yr awr. Mae glaw trwm a gwyntoedd 110 milltir yr awr wedi rhwygo’r toeau oddi ar dai.

5,000 yn gadael cartrefi

Eisoes, mae pobl wedi gadael eu cartrefi ac wedi mynd i dref San Fernando mewn bysiau a thryciau gyda channoedd yn llenwi lloches yno mewn awditoriwm yn y dref.

Yn ôl adroddiadau lleol, mae saith o bentrefi pysgota gyda phoblogaeth gyfan o 5,000 wedi gadael eu cartrefi am y dref.

Mae’r gwyntoedd gogleddol yn dal i chwythu, sy’n golygu nad yw’r corwynt wedi pasio eto.

Yn ôl y ganolfan corwyntoedd, mae’r corwynt yn gwanhau ers iddo gyrraedd y tir. Mae disgwyl iddo wanhau ymhellach wrth iddo deithio ar dir.

LLUN: Lloches storm, Gwifren PA