Mae jetiau ymladd Pacistan wedi bomio’r hyn y maen nhw’n ei gredu sy’n guddfannau i wrthryfelwyr mewn ymosodiad newydd heddiw gan ladd o leiaf 20 o bobl.
Yn ôl Samiullah Khan, dirprwy weinyddwr llywodraethol yn rhanbarth brodorol Orakzai, mae’r bomiau wedi dinistrio chwe chuddfan Taliban.
Fe ddywedodd y swyddog ei fod wedi cael cadarnhad fod 20 o wrthryfelwyr wedi’u lladd yn yr ymosodiad diweddaraf hwn.
Mae byddin Pacistan wedi bod yn bomio Orakzai am fisoedd am eu bod nhw’n credu ei fod o’n ardal cuddio ar gyfer gwrthryfelwyr Taliban.
Er i’r fyddin ddatgan eu bod yn fuddugol yno yn gynnar ym mis Mehefin, mae’r trais yn parhau.
LLUN: Milwyr Pacistan, Gwifren PA.