Ifan Morgan Jones sy’n adolygu Ar Drywydd y Duwiau gan Emlyn Gomer Roberts…
Y broblem gydag adolygiadau nofelau ffantasiol neu ffuglen wyddonol Cymraeg yw eu bod nhw fel arfer yn dechrau drwy ddweud: ‘Dydw i ddim yn darllen y math yma o beth fel arfer…’
Wel, rydw i yn darllen y math yma o beth fel arfer – ond yn Saesneg. Pethau prin iawn ydi nofelau ffantasiol yn Gymraeg, er eu bod nhw wedi mynd yn fwy cyffredin yn ddiweddar. A dim ond dwy nofel ffuglen wyddonol Cymraeg alla’i feddwl amdanyn nhw oddi ar dop fy mhen – Wythnos yng Nghymru Fydd gan Islwyn Ffowc Elis a Blodyn Tatws gan Eirug Wyn.
Mae’r nofel yma rywle rhwng ffantasi a ffuglen wyddonol. Os ydych chi erioed wedi gweld y ffilm neu’r gyfres Stargate, mae hwn yn rhywbeth tebyg, gan blethu creaduriaid chwedlonol a dyfeisiau technolegol gyda’i gilydd.
Mae’r plot yn ei hanfod yn ddigon tebyg i gannodd o nofelau eraill o’r genre. Taith ar droed ydi hi o un lle i’r llall, o Fryn Crud gysurus (à la Hobbitton) i Fynydd Aruthredd (à la Mount Doom). Wrth gwrs mae yna bobol ddrwg ar eu holau nhw a chreaduriaid erchyll i’w gorchfygu ar y ffordd yno, gan gynnwys un creadur tentaclog sy’n codi o’r dyfroedd (à la… ie, mae’r awdur wedi darllen Lord of the Rings).
Beth sy’n wahanol am y nofel yma dw i’n meddwl ydi ei bod hi’n taflu’r darllenydd mewn i’r pen dwfn yn syth. Mae nofelau ffantasiol yn tueddu i ddechrau mewn byd sy’n weddol gyfarwydd i’r darllenydd cyn cyflwyno’r elfennau mwy ffantasiol bob yn dipyn wrth iddo fynd yn ei flaen. Mae’r nofel yma yn gwneud y gwrthwyneb, bron a bob, drwy ddechrau mewn byd anghyfarwydd a dryslyd a gorffen mewn byd llawr tebycach i’n un ni.
Dwi’n amau mai un o sgil effeithiau hynny ydi y bydd rhai darllenwyr (yr adolygwyr yna sydd ddim yn darllen y math yma o beth) yn colli eu ffordd dipyn bach ar y cychwyn. Ar y dudalen gyntaf rydan ni’n cael Parc Marlis, y Gattws, y Crombil, a Phont Sidian, heb lawer o syniad ynglŷn â beth mae’r awdur yn son.
Mae yna dueddiad hefyd i fynd am enwau braidd yn rhy anghyffredin. Mae Merfus, Pili ac Engral yn enwau da, ac yn awgrymu lot am natur y cymeriadau. Ond efallai y dylai’r awdur astudio’r graff yma cyn galw cymeriad arall yn Brwgaij!
Chwip o nofel
Ond os ydych chi’n llwyddo i ddenig tu hwnt i Fur Mawr y Gattws fe gewch chi nofel sy’n dal y diddordeb tan y diwedd. Mae’n nofel 300 tudalen gyda digon o waith darllen arni ond fe wneith hi chwipio heibio mewn ychydig oriau os rowch chi gyfle iddi.
Er mai nofel antur gyda digon yn digwydd ynddi yw hon y cymeriadau yw’r prif gryfder, dw i’n credu. Ynghanol yr holl frwydro mae’r awdur yn cymryd yr amser i’w datblygu nhw ac erbyn y diwedd rydych chi wir yn poeni a ydyn nhw’n mynd i gael eu saethu’n farw ar lethrau Mynydd Aruthredd ai peidio.
Serch hynny roeddwn i’n gweld y dihiryn pennaf, Engral, braidd yn rhy ddu i gyd. Mae’n arteithio a lladd pobol, yn cam-drin plant yn rhywiol, yn caethiwo aelodau o’i deulu, yn dyfeisio crefydd er mwyn rheoli pobol eraill. Dw i’n tueddu i feddwl mai’r bobol ddrwg fwyaf effeithiol ydi’r rhai y mae’r darllenwyr yn gallu deall eu safbwynt nhw, i ryw raddau. Mae’r awdur eisiau i ni gasáu Engral o’r cychwyn cyntaf ac efallai yn ei gorwneud hi braidd.
Un gwendid arall yn fy nhyb i oedd nad oedd yr awdur yn cymryd gymaint o ofal wrth ddatblygu’r byd oedd o wedi ei greu a’r cymeriadau. Mae’r Ddinas Aur danddaearol yn syniad da ond does yna ddim digon o ddisgrifiad ynglŷn â sut oedd o’n edrych na chwaith sut oedd o’n gweithio. Os ydi’r ddynoliaeth wedi eu cloi i lawr yno gan y Duwiau, o le maen nhw’n cael eu bwyd? Pam fod yna gert gachu yn un olygfa ond sustem carthffosiaeth yn y nesaf? Oes yna anifeiliaid i lawr yno gyda nhw? Pa mor fawr yw’r ddinas? Ydi o’n un canoloesol ynteu ydi o i fod i edrych yn fwy modern? Dw i’n siŵr bod gan yr awdur yr ate i bob un o’r cwestiynau yna, a darlun eglur o’r ddinas yn ei ben, ac rydw i eisiau iddo rannu hwnnw gyda fi!
Ond man feirniadaethau ydi rhain ac ni ddylen nhw atal neb rhag prynu a darllen yr nofel yma. Fe wnes i ei mwynhau hi o’r dechrau i’r diwedd. Nid yn unig mai hi’n nofel ffuglen wyddonol yn y Gymraeg (peth prin), ond yn nofel sydd wedi ei ysgrifennu er mwynhad y darllenydd yn unig (peth prinnach byth)! Mwy os gwelwch yn dda… ac mae diweddglo’r nofel yn awgrymu bod mwy ar y ffordd!