Mae mam y ferch gafodd ei lladd neithiwr ar ôl iddi gael ei gwasgu gan gatiau electroneg wedi dweud ei bod yn ddig ynglŷn â marwolaeth ei merch.
Bu farw Semelia Campbell, chwech oed, ar ôl mynd yn sownd rhwng gatiau yn agos i’w chartref yn Carnival Place yn ardal Moss Side, Manceinion.
Cafodd y ferch ifanc ei chludo i Ysbyty Brenhinol Manceinion ond bu farw o’u hanafiadau.
Dywedodd mam y ferch, Judith Gilroy na fyddai’r ddamwain wedi digwydd pe bai’r gatiau’n ddiogel.
“Ni ddylai hyn fod wedi digwydd. Mae’r gatiau wedi cael eu cadwyno erbyn hyn, ond doedden nhw ddim yn ddiogel neithiwr,” meddai Judith Gilroy.
Roedd y ferch yn chwarae gyda ffrind pan aeth yn sownd wrth i’r gatiau gau am tua 7.30pm neithiwr.
Ceisiodd ei theulu a ffrindiau ei rhyddhau cyn i barafeddygon gyrraedd.
Mae’r heddlu a’r awdurdod iechyd a diogelwch wedi lansio ymchwil ar y cyd i’r digwyddiad.
Llun: Judith Gilroy yn edrych ar deyrngedau blodau i’w merch, Semelia Campbell- PA.