Mae’r Llys Goruchaf wedi penderfynu nad yw milwyr Prydeinig yn cael ei gwarchod gan gyfreithiau hawliau dynol ar faes y gad.
Fe ddaw’r penderfyniad mewn dyfarniad i farwolaeth y milwr Jason Smith yn Irac yn 2003.
Roedd teulu Jason Smith yn dadlau y dylai milwyr dderbyn gwarchodaeth wrth wasanaethu mewn rhyfeloedd.
Ond dywedodd arweinyddion yn y fyddin nad oed yn ymarferol i adael milwyr i gael eu gwarchod gan gyfreithiau hawliau dynol mewn ymgyrchoedd milwrol.
Bu farw Jason Smith o drawiad ar y galon ar ôl dweud wrth staff meddygol nad oedd yn hwylus oherwydd ei fod yn dioddef yng ngwres uchel Irac.
Fe gychwynnodd Catherine Smith, mam y milwr yr achos llys ar ôl i’w ceisiadau am ddogfennau allweddol cael ei wrthod yn wreiddiol yn y cwest i farwolaeth ei mab.
Mae’r llys wedi dileu penderfyniadau cynt y dylai’r cyfreithiau warchod milwyr bob amser.
Dywedodd llywydd y Llys Goruchaf, yr Arglwydd Phillips, na fyddai milwyr sy’n ymladd dramor yn gallu cael ei gwarchod gan hawliau dynol ym mhob achos.
Llun: Milwyr Prydain