Mae Syr Tom Jones yn dweud ei fod yn cael blas ar fywyd Cymreig yn Los Angeles trwy yfed cwrw o Gymru.
Dywedodd y canwr, sy’n wreiddiol o Bontypridd ei fod yn gallu cael gafael ar gwrw Prydeinig sydd wedi’i fewnforio yn hawdd y dyddiau yma.
“Doeddwn ni erioed â diddordeb mewn cyffuriau, ond rwyf wastad wedi hoffi diod,” meddai Tom Jones.
“Dyddiau yma rwy’n mewnforio llawer o gwrw Prydeinig ac rwyf hyd yn oed yn gallu cael rhai Cymreig.”
“Dydw i ddim wedi gallu cael Brains hyd yn hyn, ond rwy’n yfed Felinfeol Double Dragon, ac mae’ wych!”
“Dyma’r peth agosaf gewch chi i Gymru heb fynd ‘na,” ychwanegodd y canwr Cymreig.