Mae Caerdydd wedi cyfaddef bod y clwb wedi methu talu cyflogau mis Mehefin ar amser.

Ond mae Prif Weithredwr newydd y clwb, Gethin Jenkins wedi dweud mai gwaith papur sydd ar fai am yr oedi.

“Yn dilyn oedi mewn gyda throsglwyddo arian rhyngwladol, dyw’r chwaraewyr a staff Caerdydd ddim wedi cael eu talu ar y dyddiad arferol,” meddai Gethin Jenkins wrth y BBC.

“Ond r’y ni’n disgwyl i’r mater cael ei ddatrys yn y dyddiau nesaf.”

Mae Caerdydd newydd osgoi gorchymyn dirwyn y clwb i ben ar ôl talu dyled o £1.9m i’r adran Cyllid a Thollau.

Roedd hyn yn bosib ar ôl i gonsortiwm o Falaysia fuddsoddi £6m yn y clwb fis diwethaf.

Gohirio taith i Falaysia

Mae Caerdydd hefyd wedi cadarnhau na fydd y clwb yn mynd ar daith i Falaysia dros yr haf ar ôl i’r daith gael ei gohirio am flwyddyn.

Fe ddaw hyn yn dilyn taith ddiweddar y rheolwr Dave Jones i Kuala Lumpur i astudio gwahanol agweddau o’r daith.

“Yn dilyn taith wych i Falaysia, r’y ni’n credu byddai’r cyfleoedd a’r buddion i’r clwb yn fwy pe baen ni’n trefnu’r daith y flwyddyn nesaf,” meddai Dave Jones.

Mae’n debygol bydd y clwb yn mynd ar daith i Bortiwgal eleni gyda’r Adar Glas yn gobeithio trefnu trip i Falaysia yn 2011.

Llun: Stadiwm Dinas Caerdydd- PA gan Barry Batchelor.