Gallai llai o droseddwyr gael eu hanfon i’r carchar o hyn ymlaen, yn sgil cynlluniau newydd ar gyfer y system gyfiawnder gan Lywodraeth glymbleidiol Prydain.
Mi allai hyn olygu talu grwpiau gwirfoddol a phreifat yn ôl faint o droseddwyr maen nhw’n llwyddo i’w hail-sefydlu yn y gymuned.
Yn ogystal, gallai mwy o droseddwyr gael dedfryd i weithio yn y gymuned yn lle cael eu hanfon i’r carchar am gyfnodau byr.
Cafodd yr amcanion yma eu hamlinellu gan yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Kenneth Clarke, mewn araith yn Llundain heddiw.
Mae’n “rhyfeddol” fod 85,000 o garcharorion yng Nghymru a Lloegr meddai, tra’n amlinellu ymroddiad y Llywodraeth i gynnal adolygiad llawn o’r polisi dedfrydu.
Mae anfon troseddwyr i’r carchar yn fodd aneffeithiol o’u rhwystro rhag ail droseddu awgrymodd – gan honni fod rhai troseddwyr yn gallu cael eu “caledu” yn lle cael eu diwygio.
Dywedodd fod carcharu mwy a mwy o bobol am hirach heb chwilio am fodd i’w newid nhw yn ddim gwahanol i Loegr yn ystod oes Victoria.
Ond dywedodd hefyd mae ei “flaenoriaeth gyntaf” yw diogelwch y cyhoedd, ac amddiffyn cymunedau rhag troseddwyr peryglus.
Gwerth am arian
Dywedodd hefyd y byddai newid y drefn yn golygu gwell gwerth am arian i’r trethdalwr.
Mynnodd fod y system fel y mae ddim yn gwneud synnwyr, gan fod cadw unigolyn mewn carchar yn costio, ar gyfartaledd, £38,000 y flwyddyn.
Roedd yn gobeithio, meddai, y byddai’r diwygiadau arfaethedig yn talu am ei hunan drwy leihau costau’r system gyfiawnder.
Llun: Tu fewn i garchar Wakefield (Gareth Copley/Gwifren PA)