Mae Aelod Cynulliad Sir Drefaldwyn, Mick Bates, wedi gwadu ymosod ar dri barafeddyg ar ôl cwympo lawr grisiau tra ar noswaith allan yng Nghaerdydd.
Mae’n wynebu tri chyhuddiad o ymosod trwy guro a throseddau’n ymwneud â’r drefn gyhoeddus.
Nid oedd y gwleidydd yn bresennol mewn gwrandawiad byr yn Llys Ynadon Caerdydd heddiw, ond fe ddywedodd ei gyfreithiwr ei fod yn pledio’n ddieuog i bob cyhuddiad.
Honnir fod y digwyddiad wedi digwydd yn ystod noswaith allan yng Nghaerdydd ym mis Ionawr.
Mae disgwyl i achos dau ddiwrnod ddechrau yn Llys Ynadon Caerdydd ar 6 Medi.
Mae Mick Bates wedi cael ei wahardd o’r Democratiaid Rhyddfrydol am y tro.