Mae un o glybiau’r Super League, Castleford Tigers wedi derbyn dirwy o £40,000 ar ôl i’w cefnogwyr alw enwau homoffobig ar chwaraewr y Crusaders, Gareth Thomas.
Fe gyhoeddodd cyn gapten Cymru ei fod yn hoyw ym mis Rhagfyr 2009 ac fe arwyddodd gyda’r Crusaders ym mis Mawrth eleni.
“Cafwyd Castleford yn euog o ymddygiad annerbyniol mewn gem yn erbyn y Crusaders, o dorri rheolau Polisi Parch y RFL, camymddygiad gan eu cefnogwyr ac o ymddygiad sy’n niweidiol i chwaraeon,” meddai’r Rugby Football League.
Cafodd y gwrandawiad ei gadeirio gan y Barnwr Rodney Grant. Beirniadodd y clwb am
• fethu â chymryd camau priodol i atal y siantio homoffobig
• fethu ag adnabod y rhai oedd yn gyfrifol
• fethu herio’r siantio
• fethu cynnal ymchwiliad ystyrlon yn dilyn y digwyddiad.
Fe fydd rhaid i Castleford dalu £20,000 yn syth, a’r hanner arall tua diwedd 2011.
Ond dywedodd prif weithredwr Castleford Tigers bod y dyfarniad wedi dod fel “sioc” iddo a bod y clwb yn bwriadu apelio.