Yr A40 rhwng Llanymddyfri a Chaerfyrddin yw’r ffordd sydd wedi gwella fwyaf o ran diogelwch ar draws gwledydd Prydain.

Yn ôl adroddiad gan y Sefydliad Diogelwch y Ffyrdd, roedd 74% yn llai o farwolaethau a damweiniau difrifol wedi digwydd yno rhwng 2006 a 2008.

Daeth hyn, meddai’r adroddiad, yn sgil gwella cyffyrdd a marciau ffordd, ac ailwampio a thrin yr wyneb i atal cerbydau rhag sgidio.

Dywedodd yr adroddiad hefyd fod 7% o bob damwain farwol ar y ffyrdd a adolygwyd yn digwydd yng Nghymru – cyfradd sydd ymhlith yr isaf o’i gymharu â’r Alban a rhanbarthau Lloegr.

Damweiniau

Ond mae’r adroddiad yn cyfeirio’n benodol hefyd at ffyrdd lle mae’r mwyaf o ddamweiniau yn digwydd ar draws gwledydd Prydain.

Mae’n dweud fod perygl annerbyniol o uchel i yrwyr ar 10% o’r traffyrdd a’r prif ffyrdd.

Mae’r rhan fwyaf o’r ffyrdd peryglus yng ngogledd orllewin Lloegr, Efrog a’r Humber, a dwyrain canolbarth Lloegr, tra bod y peryg cyffredinol mwyaf i’w gael yn yr Alban.

Gorllewin canolbarth Lloegr sydd â’r ffyrdd mwyaf diogel.