Bydd Derwyddon Dr Gonzo, Racehorses, Masters in France, Yucatan a Brigyn ymhlith y bandiau Cymraeg fydd yn chwarae yng Ngŵyl y Ffin eleni.

Mae’r ŵyl – sy’n rhad ac am ddim ac yn agored i bawb – yn cael ei chynnal yng Ngerddi’r Tŵr, Treffynnon, ar 24 Gorffennaf.

Menter Iaith Sir y Fflint ac Urdd Gobaith Cymru sy’n trefnu’r digwyddiad, er mwyn hybu cyfleoedd i fandiau Cymraeg yn y gogledd ddwyrain.

Cynhaliwyd yr ŵyl y llynedd ar Faes Rec yr Wyddgrug, ac er iddyn nhw ddioddef o dywydd gwael iawn, roedd dros 1000 o bobol wedi mynychu.

Ewch i www.yffin.co.uk am fwy o wybodaeth.

Llun: Brigyn