Mae Benigno Aquino III wedi cael ei sefydlu fel Arlywydd y Philipinas ar ôl tyngu llw mewn seremoni oedd yn cael ei gwylio gan gannoedd ar filoedd heddiw.

Fe bellach sy’n arwain de ddwyrain Asia. Mae wedi addo mynd i’r afael â thlodi a llygredd.

Hanes Aquino III

Fe gafodd Benigno Simeon “Noynoy” Cojuangco Aquino III ei eni 8 Chwefror, 1960.

Ef yw pymthegfed Arlywydd Ynysoedd y Philipinau ac mae wedi gweithio fel Ysgrifennydd Adran Mewnol a Llywodraeth Leol.

Fe gafodd Aquino ei eni yn Manila ac fe raddiodd o Brifysgol Ateneo de Manile yn 1981 cyn ymuno gyda’i deulu oedd yn alltud yn yr Unol Daleithiau.
 
Yn 1983 fe aeth yn ôl i’r Philipinas ar ôl i’w dad gael ei lofruddio.

Yn dilyn marwolaeth ei fam ar Awst 1, 2009, fe ddechreuodd llawer o bobl alw ar Aquino i redeg fel Arlywydd.

LLUN: Llun o’r Seremoni – Gwifren PA