Mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones wedi dweud ei fod yn benderfynol o sicrhau nad yw Cymru yn gymwys am y cymorth ariannol sy’n cael ei neilltuo ar gyfer rhannau tlotaf Ewrop.
Mae gorllewin Cymru ac ardaloedd y Cymoedd wedi derbyn biliynau mewn help ariannol i wella’r economi ac i dalu am adfywiad.
Ond dywed Carwyn Jones ei fod yn gobeithio gweld gwelliant yn yr economi fydd yn gwneud yn siŵr na fydd rhannau o Gymru’n cael eu rhestru ymysg y rhai mwyaf anghenus.
Diwedd i’r diwylliant grantiau
Fe ddaw hyn wrth i Lywodraeth y Cynulliad baratoi i gyhoeddi rhaglen adfywio’r economi’r wythnos nesaf a fydd yn nodi ffyrdd newydd o gefnogi busnesau.
Mae gweinidogion wedi cyhoeddi ei bod hi’n amser rhoi’r diwedd i’r “diwylliant grantiau” sy’n dibynnu ar roi cymorth ariannol er mwyn denu buddsoddwyr o dramor.
Croesawu hwb i fusnesau newydd
Mae Carwyn Jones wedi croesawu cynllun Llywodraeth San Steffan fydd yn golygu y bydd busnesau newydd y tu allan i ardal Llundain yn talu llai mewn
cyfraniadau yswiriant gwladol.
“Rwy’n croesawu’r rhan yna o’r Gyllideb. Fe fydd yn help mawr i ddenu busnesau i Gymru ac yn helpu i fusnesau ffynnu yma yng Nghymru,” meddai Carwyn Jones.
“Nod y llywodraeth yma yw sicrhau nad ydym ni’n gymwys ar gyfer y lefel uchaf o gyllid erbyn 2013,” ychwanegodd Prif Weinidog Cymru.