Mae samplau o lwch llosgfynydd Gwlad yr Iâ yn cael eu casglu yn Eryri cyn cael hanfon i’w hastudio gan wyddonwyr i weld a fu newid i’r amgylchedd leol.
Er nad ydy’r llwch yn gwasgaru bellach, mae samplau’n cael ei casglu gan y Cyngor Cefn Gwald yng ngorsaf monitro newid hinsawdd Eryri.
Fe ddechreuodd llosgfynydd Eyjafjallajokull ffrwydro ar 20 Mawrth. Bellach, mae swyddogion yn Eryri yn casglu samplau o wair a dŵr ac yn eu gyrru i Brifysgol Newcastle ble mae ymchwilwyr yn eu dadansoddi er mwyn sylwi ar unrhyw newidiadau posibl yn yr amgylchedd.
Mae’r orsaf sydd uwchben Llyn Llydaw yn Eryri wedi bod yn casglu samplau i fonitro newid amgylcheddol bob dydd Mercher ers 15 o flynyddoedd. Dyma’r unig orsaf fonitro amgylcheddol daearol o’i bath yng Nghymru.
“Mae arwyddion cynnar o orsaf monitro Eryri yn dangos na fydd effaith ddramatig ar Gymru o ganlyniad i’r llwch folcanig”, meddai Dylan Lloyd, Swyddog Arolygu Amgylcheddol ar gyfer y Cyngor Cefn Gwlad wrth Golwg360.
Cemegau a da byw
“Pan mae llosgfynyddoedd yn ffrwydro maen nhw’n rhyddhau llawer o wahanol gemegau. Mae’r rhai yng Ngwlad yr Iâ yn y gorffennol wedi rhyddhau crynodiadau uchel o nwy ffl?orid gan achosi afiechyd mewn gwartheg,” meddai Dylan Lloyd.
“Yn amlwg, dydyn ni ddim yn disgwyl mai dyma fydd yr achos yng Nghymru. Mae’n digwydd yng Ngwlad yr Iâ am mai yn fanno y mae’r llosgfynydd wedi ffrwydro.”
Maen nhw hefyd yn monitro samplau dŵr am “signalau cemegol o’r llwch folcanig.”
Eto, yn ôl Dylan Lloyd – dydyn nhw ddim yn disgwyl “unrhyw newid arwyddocaol” neu “effaith yng Nghymru” o ganlyniad.
Casglu data
“Mae data Adran yr Amgylchedd yn parhau i gael ei gasglu ar draws Prydain ac fe fydd rhaid disgwyl cyn i’r canlyniad llawn gael ei gyhoeddi,” meddai.
“Mae’r data yn helpu ni ddeall beth ddigwyddodd yn y gorffennol gyda ffrwydradau tebyg – a’u heffaith ar yr amgylchedd. Gallai hefyd fod yn fodel o sut i drin achos petai digwyddiad tebyg eto,” meddai Dylan Lloyd.
Ers dechrau casglu samplau yn yr 60au/70au un o’r pethau mae’r orsaf hon wedi’i ddarganfod yw “bod yr hafau yn mynd yn gynhesach a’r gaeafu yn fwynach.”
Llun : Llosgfynydd Gwlad yr Ia : ( gwifren PA)