Bachgen chwe blwydd oed oedd y plentyn a fu farw yn dilyn tân mewn tŷ yn Nhynygongl, Sir Fôn yn ystod oriau man bore heddiw.
Dywed yr heddlu eu bod nhw’n credu mai’r ddau berson arall sydd ar goll yw ei fam sydd yn ei phedwardegau a’i frawd sy’n ddeg oed.
Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i’r tân mewn byngalo yn Nhynygongl ger Marian-glas ychydig cyn un bore heddiw.
Roedd y tŷ yn wenfflam pan gyrhaeddodd y gwasanaethau ac mae’r Heddlu a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru’n cynnal ymchwiliad ar y cyd i ganfod achos y tân.
Oherwydd y difrod a gafodd ei achosi i’r byngalo, mae’r heddlu’n dweud y bydd hi’n beth amser eto cyn y bydd y gwasanaethau’n gallu cadarnhau os yw’r ddau berson ar goll yn yr adeilad.