Mae wyth o wrthryfelwyr wedi marw ar ôl ffrwydrad car a brwydro ger maes awyr yn Afghanistan yn ôl yr awdurdodau yno.

Yn ôl swyddog yn y maes awyr, fe laddodd un gwrthryfelwr ei hun yn y car ac yna bu grŵp o wrthryfelwyr arfog yn brwydro gyda’r lluoedd rhyngwladol ger dinas Jalalabad.

Fe ddywed yr Heddlu yn nhalaith Nangarhar eu bod nhw a swyddogion rhyngwladol wedi atal mynediad i’r maes awyr wrth i hofrenyddion gynnal patrolau uwch ben.

Cadarnhad o’r digwyddiad

Mae NATO wedi cadarnhau fod digwyddiad wedi cymryd lle yn y maes awyr ond wedi dweud nad oes rhagor o fanylion ar gael ar hyn o bryd.

Mewn mannau eraill yn y dwyrain, mae lluoedd yr Unol Daleithiau ac Afghan wedi bod yn brwydro yn erbyn cannoedd o wrthryfelwyr al-Qaida am y trydydd diwrnod yn ôl llefarwyr yn yr Unol Daleithiau.

Fe gafodd dau filwr o’r Unol Daleithiau eu lladd yn y gwrthdrawiadau ddydd Sul.