Mae Paraguay wedi ennill eu lle yn rownd wyth olaf Cwpan y Byd ar ôl curo Japan ar giciau o’r smotyn yn Stadiwm Loftus Versfeld.
Fe orffennodd gêm ddifflach yn ddi-sgôr wrth i’r ddau dîm ganolbwyntio ar amddiffyn yn hytrach na cheisio ennill yn Pretoria.
Yn dilyn 20 munud agoriadol tawel, fe gafodd y ddau dîm gyfle i sgorio gyda golwr Japan Eiji Kawashima yn arbed ymdrech Lucas Barrios ar ôl creu lle iddo’i hun yn y cwrt cosbi.
Munud yn ddiweddarach roedd ymdrech Daisuke Matsui wedi maeddu Justo Villar yn gôl Paraguay ond fe darodd y bêl y trawst i arbed y De Americanwyr.
Fe gafodd Roque Santa Cruz a Keisuke Honda gyfloeodd cyn i’r hanner cyntaf ddod i ben, ond fe aeth eu hymdrechion heibio’r pyst.
Ciciau o’r smotyn
Paraguay oedd y tîm cryfa’ ar ddechrau’r ail hanner gyda golwr Japan yn arbed yn dda o beniad Cristian Riveros.
Ond er mai Paraguay oedd yn chwarae orau wedi’r egwyl, fe gafodd Japan gwpl o gyfleoedd gydag ymdrechion yr amddiffynwyr Yuto Nagatomo a Tulio yn cael eu hatal gan Villar.
Ond gyda’r ddau dîm yn methu torri trwy amddiffyn y llall yn dilyn amser ychwanegol, bu rhaid i’r gêm cael ei benderfynu ar giciau o’r smotyn.
Amddiffynnwr Japan, Yuichi Komano oedd yr unig chwaraewr i fethu gyda chic o’r smotyn gyda Pharaguay yn llwyddo gyda phump i ennill 5-3.
Bydd Paraguay yn wynebu Sbaen yn rownd yr wyth olaf nos Sadwrn ar ôl i Sbaen guro Portiwgal 1-0 neithiwr.
LLUN: Flikr – Cabezadeturco