Mae’r llongau sy’n casglu olew llif Gwlff Mecsico wedi eu gyrru yn ôl i’r lan oherwydd corwynt Alex sydd wedi achosi tonnau garw a gwyntoedd cryfion.
Mae’r llongau wedi teithio’n ôl at loches ddiogel oherwydd y môr garw fydd sy’n debygol o bara am ddyddiau.
Does dim disgwyl i gorwynt Alex fynd i ardal y llif olew ei hun a does dim disgwyl iddo effeithio ar ymdrechion i adfer y safle tua 50 milltir oddi ar arfordir Louisiana.
Corwynt Alex yn creu gwyntoedd cryf
Ond, mae’r corwynt wedi cymhlethu pethau gan fod tonnau o 12 troedfedd mewn rhannau o’r Gwlff, yn ôl y Gwasanaeth Tywydd Cenedlaethol.
Roedd Corwynt Alex yn achosi gwyntoedd o 75 milltir yr awr ddoe. Yn ôl Canolfan Genedlaethol Corwyntoedd y wlad, mae’r corwynt yn perthyn i gategori un a dyma’r corwynt cyntaf yn ystod y mis o Fehefin ers 1995.
Ar hyn o bryd, mae’r corwynt yn teithio i gyfeiriad ffin Tecsas Mecsico.
LLUN: Gwifren PA