Mae’r nod o greu llai o Brifysgolion mwy o faint yng Nghymru wedi cael ei feirniadu gan y gwrthbleidiau ac arweinwyr myfyrwyr.

Dywed y Gweinidog Addysg Leighton Andrews ei bod hi’n bwysig fod sefydliadau addysg uwch Cymru yn newid yn gyflym ac yn cefnogi’r economi Gymreig.

“Mae’n bwysig ein bod yn newid yn gloi ac yn datblygu cynlluniau newydd,” meddai.

Ond mae’r Ceidwadwyr Cymreig a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn amheus o’r cynlluniau.

“Rwy’n croesawu’r ffaith fod y Gweinidog eisiau codi lefelau incwm prifysgolion Cymru ond mae’n rhaid gwneud yn siŵr fod dewis eang o bynciau ar gael i fyfyrwyr o hyd,” meddai llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Addysg, Paul Davies, A.C.

“Rwy’n gobeithio na fydd hyn yn golygu fod llai o fyfyrwyr o gefndiroedd tlawd yn gallu cael addysg uwch.”

Dywed y Democratiaid Rhyddfrydol fod angen i addysg uwch addasu gan fod amgylchiadau yn newid yn gyflym.

“Ond dyw mwy ddim bob tro yn golygu gwell,” meddai Jenny Randerson, llefarydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig.

“Yn aml, cydweithio nid uno yw’r ffordd orau ymlaen.”