Mae’n bosib y bydd cyn gymaint â 1.3 miliwn o bobl allan o waith yn sgil y toriadau gafodd eu cyhoeddi yn y Gyllideb yr wythnos diwethaf.
Dywed adroddiad ym mhapur y Guardian fod ffigyrau wedi eu cyrraedd o’r Trysorlys sy’n dangos y bydd 120,000 o swyddi yn cael eu colli o’r sector cyhoeddus a 140,000 o’r sector breifat bob blwyddyn dros y bum mlynedd nesaf.
Dywed y papur fod y ffigyrau mewn cyflwyniad sydd wedi cael ei baratoi gan y Trysorlys ond doedd llefarydd ddim yn gallu cadarnhau neu wadu hyn.
Mae’r ffigyrau yn hollol groes i’r hyn sy’n cael ei ddarogan gan y Swyddfa gyda Chyfrifoldeb dros y Gyllideb gafodd ei sefydlu gan y Canghellor, George Osborne.
Yn ôl y corff hwnnw, fe fydd diweithdra yn gostwng ar ôl cyrraedd uchafbwynt o 8.1% eleni gan gyrraedd 6.1% yn 2015.
Llun: George Osborne, Canghellor ( Gwifren PA )