Mae plentyn wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Nhynygongl, Sir Fôn yn ystod oriau man bore heddiw.

Mae dau o bobl ar goll wrth i ymchwiliadau’r gwasanaethau ddechrau i geisio canfod achos y tân.

Fe gafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i’r tân mewn byngalo yn Nhynygongl ger Marian-glas ychydig cyn un bore heddiw.

Fe gafodd dwy injan o Amlwch, un o Benllech ac un o Langefni ynghyd ag uned cymorth dechnegol o Gaernarfon eu galw i’r digwyddiad yn dilyn adroddiadau am dân ffyrnig.

Roedd y tŷ yn wenfflam pan gyrhaeddodd y gwasanaethau ac fe gafodd y byngalo ei ddifrodi yn y tân.

Does dim rhagor o fanylion ar hyn o bryd ac mae ymchwiliadau’n parhau.