Mae gwasanaethau cyhoeddus wedi eu hatal ledled Gwlad Groeg heddiw wrth i weithwyr adael eu swyddi ar gyfer streic gyffredinol.
Bydd y streic yn aflonyddu ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac yn gadael ysbytai yn gweithio gyda staff argyfwng yn unig. Ni fydd unrhyw newyddion yn cael ei ddangos ar y teledu drwy gydol y dydd.
Roedd yna densiwn yn Piraeus, porthladd mwyaf y wlad, wrth i brotestwyr o’r Blaid Gomiwnyddol geisio atal twristiaid rhag mynd ar longau i ynysoedd yr Agean.
Roedd hynny er bod llys wedi dweud ynghynt nad oedd morwyr yn cael cymryd rhan yn y streic gyffredinol. Gadawodd rhai llongau bore ma ond ni lwyddodd yr holl dwristiaid i adael.
Mae cwmnïau llongau a swyddogion yn niwydiant twristiaeth hanfodol y wlad wedi beirniadu’r llywodraeth am beidio â gweithredu er mwyn atal y streicwyr.
Mae gyrwyr bysiau, trenau tanddaearol a thramiau wedi gwrthod mynd i’r gwaith heddiw fel rhan o’r streic.
Er hynny mae meysydd awyr y wlad dal ar agor ac ehediadau i mewn ac allan o’r wlad yn mynd yn eu blaen.
Ni fydd unrhyw newyddion yn cael ei ddarlledu ar y teledu heddiw a ni fydd papurau newydd yn cael eu hargraffu yfory wrth i newyddiadurwyr streicio.
Galwyd y streic gan undebau mwyaf sector breifat a cyhoeddus y wlad, sydd yn gwrthod mesur drafft fydd yn cynyddu’r oed ymddeol a’i gwneud hi’n rhatach i gwmnïau ddiswyddo staff.
Fe fydd senedd y wlad yn dechrau trafod y mesur heddiw ac mae disgwyl i’r ddadl barhau am fwy nag wythnos.
Mae disgwyl i’r llywodraeth adain chwith, sydd â mwyafrif o saith sedd yn y senedd 300 aelod, ennill y bleidlais.
Mae Athens wedi gado torri’r diffyg ariannol ar ôl derbyn benthyciad €100 biliwn gan yr Undeb Ewropeaidd a’r Gronfa Ariannol Ryngwladol.