Mae sawl babi wedi ei eni yno dros y blynyddoedd a sawl rhiant wedi bod yn crafu pen ynglŷn â beth i’w enwi.

Ond nawr mae’r ysbyty ei hun yn ansicr ynglŷn â’i enw, ac mae’n bosib pleidleisio ar lein er mwyn penderfynu a ddylai Ysbyty Gorllewin Cymru newid ei enw i Glangwili.

Mae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi agor y bleidlais ar eu gwefan fan hyn. Ar hyn o bryd mae’r mwyafrif llethol o blaid newyd yr enw.

Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru yw’r enw swyddogol ond mae pawb yn lleol yn galw’r ysbyty yng Nghaerfyrddin yn Ysbyty Glangwili.

“Am nifer o flynyddoedd mae pobl leol a sefydliadau wedi cyfeirio at yr ysbyty fel Glangwili, er nad yw’r ysbyty erioed wedi cael ei enwi yn Glangwili,” meddai Bwrdd Iechyd Hywel Dda.

“Mae gennych chi gyfle nawr i ddylanwadau ar newid enw – bydd yr enw yn newid os oes galw cyhoeddus, felly sicrhewch fod eich llais yn cael ei glywed a rhowch wybod i ni beth hoffech chi alw eich ysbyty lleol. Mae’r bleidlais yn cau ar ddydd Gwener 9 Gorffennaf 2010.”

Yr ysbyty a agorodd yn 1949 oedd y cyntaf gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng ngorllewin Cymru, ond erbyn hyn mae yna ysbytai yn Llanelli, Hwlffordd ac Aberystwyth.

Mae gan ysbytai rheini enwau arwyddocaol lleol, er enghraifft Bronglais yn Aberystwyth, Llwynhelyg yn Hwlffordd ac Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli.

“Pan gyrhaeddais gyntaf yng Ngorllewin Cymru a chael fy ngofyn i drafod datblygiadau’r dyfodol yn Ysbyty Glangwili, nid oeddwn yn deall ble roedd Glangwili.,” meddai Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Hywel Dda, Trevor Purt.

“Wrth gwrs, deallais yn gyflym iawn bod defnydd lleol i’r enw ac mae hyn wedi gwneud i mi feddwl tybed a ddylwn ni newid yr enw er mwyn adlewyrchu dymuniadau pobl leol.”