Mae’r ddynes a fu farw yn dilyn tân mewn tŷ yn Llanelwy yn ystod oriau mân y bore ddoe wedi’i henwi.
Roedd Julie Mifflin yn 39 mlwydd oed ac yn byw ar ei phen ei hun ar stryd Llwyn Elwy’r dref.
Galwyd y Gwasanaethau Brys i’r tŷ am 2:37am bore ddoe. Fe fu dau griw tân o Rhyl, un o Lanelwy ac un o Abergele yn brwydro’r fflamau.
Diffoddwyd y tân ond yna daeth y gwasanaethau brys o hyd i gorff yn y tŷ.
Mae’r Heddlu wedi bod mewn cyswllt gyda’i theulu ac fe fydd post mortem yn cael ei gynnal brynhawn ma. Dyw’r farwolaeth ddim yn cael ei drin fel un amheus.
Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw’n gweithio’n agos â Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru er mwyn ceisio darganfod beth achosodd y tân.