Mae Undeb Cenedlaethol y Glowyr Cymru dan y lach am ddweud na allen nhw fforddio rhoi cymorth ariannol i gyn lowyr fynd i’r llys i hawlio iawndal.

Mae canghennau’r undeb yn Lloegr a’r Alban wedi dweud eu bod nhw’n fodlon talu i gyn lowyr hawlio iawndal am gryd cymalau esgyrnol y pen glin.

Ond mae Undeb Cenedlaethol y Glowyr Cymru wedi dweud nad oes gyda nhw’r arian er mwyn gwneud hynny.

Yn ôl rhaglen Week In Week Out heddiw mae 1,000 o gyn lowyr de Cymru eisiau gwneud cais am iawndal.

Ond mae Wayne Thomas, ysgrifennydd cyffredinol yr undeb yn ne Cymru, wedi dweud nad oes ganddyn nhw’r arian.

“Rydym ni’n ei gefnogi o ond dydyn ni ddim yn gallu ei gefnogi o’n ariannol,” meddai wrth Week In Week Out. “Fe allen ni fod wedi cyfrannu £100,000 ond dyna fyddai’r terfyn.”

Fe fydd y rhaglen yn cael ei ddangos am 10.35 heno ar sianel BBC One.

(Llun: Big Pit)