Fe fydd rhaid lleihau nifer yr heddweision sydd gan yr heddlu yn sgil y toriadau ariannol.
Dyna rybudd Llywydd Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu, Syr Hugh Orde. Fe fydd yn siarad yng nghynhadledd flynyddol y gymdeithas ym Manceinion heddiw.
Mae disgwyl iddo ddweud yn ei araith ei fod o’n “gamarweiniol” honni y bydd hi’n bosib cynnal yr un nifer o heddweision yn y dyfodol.
Fe fydd yn annog gweinidogion i ddiwygio strwythur heddluoedd yn hytrach na “thorri darnau i ffwrdd” er mwyn arbed arian.
Ychwanegodd na fyddai’n gwneud y tro i’r Llywodraeth ddisgwyl i bob heddlu fynd ati i weithredu’r toriadau yn annibynnol o’i gilydd.
Dim ond drwy “gydweithio’n ddi-dor” y gallai heddluoedd gwahanol gadw pobol yn saff, ac y byddai angen cyd-drefnu unrhyw doriadau yn ganolog, meddai.
Yn ogystal â hynny fe fydd yn dweud nad ydi o wedi derbyn unrhyw arweiniad gwleidyddol ynglŷn â sut y dylai’r toriadau gael eu rhoi ar waith.
Fe fydd yr Ysgrifennydd Cartref newydd, Theresa May, hefyd yn siarad yn y gynhadledd.