Mae’r FBI wedi arestio 10 o bobol yn yr Unol Daleithiau gan honni eu bod nhw wedi bod yn gweithio ers blynyddoedd fel ysbiwyr ar gyfer gwasanaethau cudd Rwsia.
Yn ôl yr FBI roedd y dynion yn aelodau o’r Sluzhba Vneshney Razvedki, gwasanaethau cudd Rwsia, ac mae eu nod oedd dylanwadu ar bolisi’r wlad a chasglu gwybodaeth.
Clywodd llys yn yr Unol Daleithiau bod yr FBI wedi rhyng-gipio neges o bencadlys gwasanaethau cudd Rwsia ym Moscow yn dweud wrth ddau o’r diffynyddion y dylen nhw “ddatblygu cysylltiadau yng nghylchoedd creu polisi’r Unol Daleithiau”.
Roedd negeseuon eraill yn dangos eu bod nhw wedi gorfod dysgu am ystod eang o bynciau gan gynnwys arfau niwclear, Iran, y Tŷ Gwyn, ac arweinyddiaeth y CIA.
Doedd dim awgrym yn y llys bod yr ysbiwyr wedi bod yn llwyddiannus yn hynny o beth, ond roedd yr FBI yn honni eu bod nhw wedi bod yn y wlad ers degawdau, ac yn byw fel cyplau.
Roedd un ohonyn nhw’n ohebydd ar bapur newydd Sbaeneg ei hiaith yn Efrog Newydd.
Mae dogfennau’r achos llys yn datgelu bod yr ysbiwyr wedi cyfathrebu gyda’i gilydd gan ddefnyddio cysylltiadau diwifr gliniaduron, inc anweledig , a drwy guddio gwybodaeth mewn delweddau cyhoeddus.
Roedd dau asiant o’r FBI, un yn Efrog Newydd ac un yn Washington, wedi cyfarfod gyda dau o’r diffynyddion mor ddiweddar â dydd Sadwrn gan smalio eu bod nhw hefyd yn ysbiwyr o Rwsia.
Mae amseru’r arestiadau yn dod ar amser anodd i’r Arlywydd Barack Obama wrth iddo ef ac Arlywydd Rwsia, Dmitry Medvedev, awgrymu yng nghyfarfod y G8 dros y penwythnos eu bod nhw eisiau “dechrau o’r dechrau”.