Mae Brasil wedi maeddu Chile 3 – 0 er mwyn cyrraedd rownd yr wyth olaf yng Nghwpan y Byd De Affrica.
Roedd o’n gêm ddigon difyrrus wrth i’r ddwy ochor ymosod drwy gydol y gêm. Y gwahaniaeth oedd bod gan Frasil y creadigrwydd o flaen y gôl i roi’r bel yng nghefn y rhwyd.
Ar ôl hanner awr agoriadol agos fe aeth Brasil ar y blaen drwy gic o’r gornel gan Maicon. Peniodd Juan hi i gefn y rhwyd heb un o chwaraewyr Chile yn agos ato.
Daeth yr ail gol bron yn syth wedyn wrth i Kaka basio’r bel i Luis Fabiano wrth ymosod. Ochrgamodd ef heibio gôl-geidwad Chile ac ergydio’r bel i gefn y rhwyd.
Hyd yn oed ar ôl mynd dwy gol ar y blaen roedd hi’n amlwg fod Brasil yn bwriadu gwneud esiampl o’u cymdogion yn Chile ac fe wnaethon nhw barhau i ymosod yn yr ail hanner.
Roedd gan Chile ddigon o’r meddiant ac yn chwarae’n dda iawn ond doedden nhw ddim yn gallu torri drwy amddiffyn cryf Brasil.
Toc cyn 60 munud sgoriodd Robinho gol wych ar ôl rhediad cyfrwys gan Ramires gan ddenu holl amddiffynwyr Chile tuag ato cyn pasio’r bel.
Dangosodd Brasil eu cryfder heno a bydd y gêm yma’n rhybudd i’r timau eraill – yn enwedig yr Ariannin, sydd cystal wrth ymosod ond efallai yn fwy bregus wrth amddiffyn.
Fe fydd Brasil yn wynebu’r Iseldiroedd yn y rownd nesaf ar ôl iddyn nhw guro Slofacia brynhawn yma.