Mae’r Canghellor George Osborne wedi rhybuddio ei fod o’n gobeithio torri gwariant cyhoeddus ymhellach drwy gyfyngu ar fudd-daliadau ar gyfer y di-waith.
Wrth siarad yng nghynhadledd yr G20 yn Toronto, Canada, dywedodd y byddai unrhyw newidiadau yn amddiffyn yr anghenus, ond yn annog pobol iach yn ôl i’r gwaith.
Mae wedi dweud wrth Weinidogion am ddod o hyd i ffyrdd o leihau’r arian sy’n cael ei wario ar fudd-daliadau cyn Adolygiad Ariannol y Llywodraeth ar 20 Hydref.
Dywedodd y byddai’r arbedion yn cael eu defnyddio er mwyn lleddfu’r toriadau ym meysydd addysg ac amddiffyn.
Mae tua 2.6 miliwn o bobol yn hawlio Budd-dal Analluogrwydd – Incapacity Benefit – ac mae hynny’n costio tua £12.5 biliwn y flwyddyn i’r pwrs cyhoeddus.
Dywedodd George Osborne ei fod o hefyd yn gobeithio cyfyngu ar Fudd-daliadau Tai, sy’n costio tua £21 biliwn y flwyddyn i’r Llywodraeth.
Ymateb
Ond mae llefarydd yr Wrthblaid ar Waith a Phensiynau, Yvette Cooper, wedi dweud y byddai toriadau o’r fath yn “annheg iawn”.
Mae aelodau o fewn y Llywodraeth glymbleidiol hefyd wedi rhybuddio bod yn rhaid bod yn ofalus wrth ddiwygio’r system.
Rhybuddiodd Lynne Featherstone o’r Democratiaid Rhyddfrydol, sy’n Weinidog yn y Swyddfa Gartref, nad oedd ymdrechion i ddiwygio’r system yn y gorffennol wedi gweithio.