Mae’r Iseldiroedd wedi ennill eu lle yn rownd wyth olaf Cwpan y Byd ar ôl curo Slofacia 2-1 yn Durban.

Fe sgoriodd Arjen Robben gôl agoriadol yr Iseldiroedd ar ôl 18 munud o’r gêm. Saethodd y bel o 20 llath a churo gôl-geidwad Slofacia, Jan Mucha.

Dyma oedd y gêm gyntaf i Robben ddechrau i’r Iseldiroedd yn y gystadleuaeth ar ôl iddo wella o anaf i’w goes.

Fe allai Slofacia wedi unioni’r sgôr wedi hanner awr ar ôl i Miroslav Stoch groesi’r bêl yn gelfydd i’r cwrt cosbi ond daeth neb yno i ergydio’r bel i mewn i gefn y rhwyd.

Dylai ymosodwr Arsenal, Robin van Persie fod wedi sgorio i dîm Bert Van Marwijk ond fe aeth ei drawiad o groesiad Mark van Bommel heibio’r postyn.

Daeth Slofacia yn agos at unioni’r sgôr ar ddechrau’r ail hanner, ond yr Iseldiroedd gafodd y gorau o’r cyfleoedd. Arbedodd Jan Mucha dwy ergyd dda gan Robben a van Bommel.

Bu rhaid i gôl-geidwad yr Iseldiroedd, Maarten Stekelenburg arbed ymdrech Stoch ar ymyl y cwrt wedi 65 munud.

Fe ddylai Slofacia fod wedi unioni’r sgol eiliadau’n ddiweddarach pan gafodd ymdrech arall gan Robert Vittek ei arbed gan Stekelenburg.

Dyblodd Wesley Sneijder mantais yr Iseldiroedd wedi 84 munud o’r chwarae.

Enillodd Slofacia gôl gysur yn yr amser ychwanegol drwy gic o’r smotyn gan Vittek.

Ond yr Iseldiroedd sy’n mynd ‘mlaen i’r rownd nesaf lle fydden nhw’n wynebu naill ai Brasil neu Chile.