Mae cyfrol wedi’i chyhoeddi am un o gymeriadau mawr Ceredigion, sef y diddanwr a’r canwr, Garnon Davies.

Mae ‘Hiwmor Garnon’ yn rhan o gyfres Ti’n Jocan Y Lolfa. Mae’n llawn atgofion, hanesion doniol, jôcs a limrigau mae’r gŵr o Ffostrasol wedi eu casglu ar hyd y blynyddoedd.

Mae yna straeon am ei brofiadau yn gweithio i’r RAE yn Aberporth, am fyd golff, criced a rygbi, helyntion Bois y Ferwig a’r côr, a’i brofiadau yn canu mewn clybiau.

Yn ogystal, mae ‘na lawer o sôn am rai o gymeriadau adnabyddus eraill yr ardal, megis Dai Thomas, Rachel Roc, Elfed Lewis a Dewi Pws.

‘Cymro a sosialydd’

“Mae yn Gymro i’r carn ac yn sosialydd brwd,” meddai golygydd y llyfr, Emyr Llew.

“Mae yna rai pobl sy’n dwyn llawenydd i unrhyw gwmni a dyna Garnon i chi.

“Fe ddywedodd S B Jones am rywun: ‘fe ddaw â haf i’r stafell’, a dyw hi ddim wedi bod yn aeaf yn Ffostrasol ers blynyddoedd.

“I bawb yng Nghymru sydd heb gael y fraint o’i adnabod, dyma gyfrol fydd yn gwneud i chi chwerthin yn uchel a mwynhau haf ei gwmni ble bynnag fyddwch chi.”

Llun: Garnon yn canu Myfanwy i gyfeiliant ei fab Ryland Teifi ar y gitâr