Fe fydd un o weithiau Shakespeare yn cael ei berfformio yn yr awyr agored yng nghanol Bannau’r Brycheiniog ym mis Gorffennaf.

Mae’r achlysur yn nodi 25 mlynedd ers sefydlu Cwmni Theatr The Festival Players.

Bydd y cast, sy’n ddynion i gyd, yn perfformio addasiad o gomedi ‘The Tempest’ yng Nghanolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol ger pentref Libanus.

Yn ôl y cyfarwyddwr artistig, Michael Dyer, wnaeth addasu’r gwaith, roedd yn credu bod The Tempest yn ymddangos i fod yn ddigon “epig” i nodi’r “pen-blwydd arian”.

Cast o ddynion

Dyma’r chweched cynhyrchiad yn olynol iddo ddefnyddio dim ond dynion yn y cast.

“Roedd rhai pobol wedi eu synnu yn 2005 pan wnaethon ni berfformio ‘A Midsummer Night’s Dream’ heb actoresau,” meddai.

“Ers hynny, rydyn ni wedi perfformio ‘Hamlet’, ‘As You Like It’, ‘Much Ado About Nothing’ a ‘The Merchant of Venice’ gyda dynion yn unig.

“Mae’r gynulleidfa yn ei weld o’n ddiddorol, ac wrth gwrs mae’n hollol ddilys. Rydyn ni’n dilyn olion traed theatrau oes Shakespeare ei hun, pan oedd dynion yn chwarae pob cymeriad.”

Picnic

Yn ôl Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae croeso i bobol ddod i weld y ddrama â’u seddi neu flancedi a’u picnic eu hunain.

Bydd y perfformiad yn dechrau am 7:30pm ar ddydd Gwener, 16 Gorffennaf.

Am docyn, galwch 01874 623 366, neu anfonwch e-bost i visitor.centre@breconbeacons.org