Mae cyn-athrawes 82 oed sy’n byw ar Ynys Môn wedi cael cytundeb i ‘sgrifennu tair nofel fydd yn cael eu cyhoeddi ar draws gwledydd Prydain.

Mi fydd trioleg Myrrha Stanford-Smith, sy’n wreiddiol o Brighton, wedi ei seilio ar fywyd arwr dychmygol o’r cyfnod Elisabethaidd, Nick Talbot.

Mae’r nofel gyntaf, The Great Lie, eisoes wedi cael ei chyhoeddi.

Mae’r stori yn sôn am anturiaethau bachgen 16 oed sy’n ffoi â chriw o actorion teithiol i Lundain.

Syndod

Dywedodd Myrrha Stanford-Smith ei bod hi wedi ei synnu’n llwyr pan ddeallodd ei bod wedi cael y cytundeb.

“Roedd yn rhaid i fi roi’r ffôn i lawr a galw nôl,” meddai.

Roedd hi wedi disgwyl i’w gwaith gael ei wrthod meddai.

“Roedd yn syndod rhyfeddol, ac mor hyfryd cael y llyfr yn fy llaw. Fe ddarllenais i e eto, dim ond er pleser.

“Mae ar y silff lyfrau nawr ar bwys fy hoff awduron… â gwagle ar gyfer y ddau lyfr nesaf.”

Ysgrifennu

Dim ond yn ddiweddar iawn y dechreuodd Myrrha Stanford-Smith ysgrifennu yn greadigol, er bod ganddi ddiddordeb erioed.

Cafodd ei hysbrydoli ar ôl cael canmoliaeth am stori fer i blant yr oedd hi wedi anfon at Radio Wales.