Mae ymgyrchwyr sydd eisiau cadw ysgolion bach yng Ngheredigion ar agor wedi condemnio Pwyllgor Craffu Cyngor Sir Ceredigion, heddiw.

Penderfynodd y pwyllgor bleidleisio yn erbyn caniatáu i’r cyngor llawn drafod y cynllun dadleuol i gau ysgolion cynradd ardal Llandysul ac agor un ysgol 3 – 19 oed yn eu lle.

Dywedodd Peter Evans o Grŵp Gweithredu Achub Ysgolion Ardal Llandysul bod y penderfyniad yn “ergyd farwol i chwe ysgol gynradd”.

Doedd y cynghorwyr ddim “yn ddigon dewr i fynd yn groes i arweinyddiaeth y cyngor” meddai.
Fe fyddai’r cynllun yn arwain at gau ysgolion cynradd Coed y Bryn, Capel Cynon, Aberbanc, Pontsian a Llandysul.

Protest

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a Grŵp Gweithredu Achub Ysgolion Ardal Llandysul wedi galw am brotest tu allan i adeilad y cyngor dydd Mercher.

Dywedodd rhiant yn yr ysgol gynradd sydd hefyd yn un o drefnwyr Cymdeithas yr Iaith bod y penderfyniad yn un “gwarthus.”

“Mae’n warthus nad yw’r holl gynghorwyr yn mynd i gael cyfle hyd yn oed i drafod penderfyniad mor ddigynsail â hyn,” meddai Angharad Clwyd.

“Dyma’r tro cyntaf mae unrhyw awdurdod wedi penderfynu cau pob ysgol mewn ardal. Penderfyniad a fyddai’n cael effaith mor niweidiol ar y cymunedau Cymraeg yma ac ar Ddyffryn Teifi ei hun.”